(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod ACRh”) syʼn nodi themâu a materion sydd iʼw cwmpasu gan elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
(2)Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.
(3)Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.
(4)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod ACRh, gweler adran 77.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 8 mewn grym ar 23.11.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1069, ergl. 4
I3A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(a)