RHAN 7CYFFREDINOL

79Ystyr “ysgol a gynhelir”, “ysgol feithrin a gynhelir” ac ymadroddion cysylltiedig

(1)

Yn y Ddeddf hon—

(a)

ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

(i)

ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, neu

(ii)

ysgol arbennig gymunedol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, ac eithrio ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty;

(b)

ystyr “ysgol feithrin a gynhelir” yw ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru ac nad yw’n ysgol arbennig.

(2)

Yn y Ddeddf hon, mae i’r ymadroddion a ganlyn yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31)

“ysgol arbennig gymunedol” (“community special school”)

“ysgol gymunedol” (“community school”)

“ysgol sefydledig” (“foundation school”)

“ysgol wirfoddol” (“voluntary school”)

“ysgol wirfoddol a gynorthwyir” (“voluntary aided school”)

“ysgol wirfoddol a reolir” (“voluntary controlled school”).