RHAN 7CYFFREDINOL

78Gwybodaeth, hysbysiadau a chyfarwyddydau ysgrifenedig

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon—

(a)

yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi i berson yn ysgrifenedig,

(b)

yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad ysgrifenedig gael ei roi i berson, neu

(c)

yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi i gyfarwyddyd gael ei roi i berson.

(2)

Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i’r person—

(a)

drwy ei danfon neu ei ddanfon i’r person,

(b)

drwy ei gadael neu ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)

drwy ei hanfon neu ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)

os yw’r amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni, drwy ei hanfon neu ei anfon yn electronig i gyfeiriad priodol y person,

ac mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (4) i (6) at roi gwybodaeth neu hysbysiad neu gyfarwyddyd yn gyfeiriadau at ei rhoi neu ei roi yn un o’r ffyrdd a bennir ym mharagraffau (a) i (d).

(3)

Mae’r amod yn yr is-adran hon wedi ei fodloni os yw’r person y mae’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i’w rhoi neu i’w roi iddo—

(a)

wedi cytuno y caniateir ei hanfon neu ei anfon yn electronig, a

(b)

wedi darparu cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw.

(4)

Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i gorff corfforedig drwy ei rhoi neu ei roi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(5)

Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i bartneriaeth drwy ei rhoi neu ei roi—

(a)

i bartner yn y bartneriaeth, neu

(b)

i berson a chanddo’r rheolaeth dros fusnes y bartneriaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.

(6)

Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i unrhyw gorff anghorfforedig arall drwy ei rhoi neu ei roi i aelod o gorff llywodraethu’r corff anghorfforedig.

(7)

At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c) ac adran 13(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) (cyflwyno dogfennau), cyfeiriad priodol person yw—

(a)

yn achos pennaeth, gyfeiriad yr ysgol;

(b)

yn achos athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion, gyfeiriad yr uned cyfeirio disgyblion;

(c)

yn achos corff corfforedig, gyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(d)

yn achos partneriaeth, neu unrhyw gorff anghorfforedig arall, gyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth neu’r corff;

(e)

yn achos person y rhoddir yr wybodaeth neu’r hysbysiad iddo gan ddibynnu ar unrhyw un o is-adrannau (4) i (6), gyfeiriad priodol y corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig arall o dan sylw;

(f)

mewn unrhyw achos arall, gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(8)

At ddibenion is-adran (2)(d) ac adran 13(2) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, cyfeiriad priodol person yw’r cyfeiriad a ddarperir gan y person hwnnw yn unol ag is-adran (3)(b).

(9)

Yn achos—

(a)

cwmni sydd wedi ei gofrestru y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

(b)

partneriaeth sy’n cynnal busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac

(c)

unrhyw gorff anghorfforedig arall a chanddo swyddfeydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

mae’r cyfeiriadau yn is-adran (7) at brif swyddfa yn cynnwys cyfeiriadau at brif swyddfa yn y Deyrnas Unedig (os oes un).