RHAN 7CYFFREDINOL
77Y Cod ACRh: y weithdrefn
(1)
Cyn dyroddi neu ddiwygio’r Cod ACRh, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
ymgynghori â’r personau y maent yn meddwl eu bod yn briodol (os oes rhai), a
(b)
gosod gerbron Senedd Cymru ddrafft o’r Cod arfaethedig (neu, yn achos diwygiadau, o’r Cod diwygiedig arfaethedig).
(2)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r Cod ACRh (neu’r Cod ACRh diwygiedig) oni bai bod drafft o’r Cod arfaethedig (neu o’r Cod diwygiedig arfaethedig)—
(a)
wedi ei osod gerbron y Senedd o dan is-adran (1)(b), a
(b)
wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Senedd.
(3)
Os yw’r Senedd yn penderfynu cymeradwyo drafft a osodwyd ger ei bron o dan is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod ACRh (neu’r Cod ACRh diwygiedig) ar ffurf y drafft.
(4)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw bersonau ynghylch y Cod ACRh cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r ymgynghoriad hwnnw i’w drin fel pe bai’n cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1)(a).