RHAN 7CYFFREDINOL
74Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon etc
(1)
Caiff rheoliadau wneud—
(a)
unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol, neu
(b)
unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed,
y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).