Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

71Dyletswydd i roi sylw i ganllawiauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau y maent yn meddwl eu bod yn briodol (os oes rhai).

(3)Wrth arfer eu swyddogaethau, rhaid i’r personau a ganlyn roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;

(f)person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn, ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

(g)awdurdod lleol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 71 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(f)