RHAN 6LL+CATODOL

Darpariaeth benodol ar gyfer lleoliadau pellach etcLL+C

70Pŵer i gymhwyso’r Ddeddf i blant sy’n cael eu cadw’n gaeth a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

(1)Caiff rheoliadau gymhwyso darpariaethau yn y Ddeddf hon, gydag addasiadau neu hebddynt—

(a)i blant sy’n cael eu cadw’n gaeth yng Nghymru o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a

(b)i bobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth yng Nghymru o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.

(2)Yn yr adran hon, ystyr plentyn sy’n cael ei gadw’n gaeth neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth yw plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth yn unol—

(a)â gorchymyn a wneir gan lys, neu

(b)â gorchymyn adalw a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 70 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(f)