RHAN 1LL+CCYSYNIADAU SYLFAENOL A DOGFENNAU ALLWEDDOL

7Y Cod CynnyddLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod Cynnydd”) syʼn nodi’r ffordd y mae cwricwlwm i wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant.

(2)Nid yw cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(4)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gadwʼr Cod Cynnydd o dan adolygiad, a

(b)cânt ei ddiwygio.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod Cynnydd, gweler adran 76.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 7 mewn grym ar 29.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1069, ergl. 3

I3A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(a)