RHAN 1CYSYNIADAU SYLFAENOL A DOGFENNAU ALLWEDDOL

7Y Cod Cynnydd

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod Cynnydd”) syʼn nodi’r ffordd y mae cwricwlwm i wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant.

F1(1A)

Wrth lunio’r Cod Cynnydd o dan is-adran (1), a’i gadw o dan adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r nodau dysgu Cymraeg a osodir gan adran 11 o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc [ ]).

(2)

Nid yw cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(3)

Nid yw addysgu a dysgu yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(4)

O ran Gweinidogion Cymru—

(a)

rhaid iddynt gadwʼr Cod Cynnydd o dan adolygiad, a

(b)

cânt ei ddiwygio.

(5)

Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod Cynnydd, gweler adran 76.