RHAN 6ATODOL
Darpariaeth benodol ar gyfer lleoliadau pellach etc
69Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer plant sy’n cael addysg mewn mwy nag un lleoliad etc
(1)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sydd i’w sicrhau i blant o’r oedran ysgol gorfodol y mae’r adran hon yn gymwys iddynt ac mewn cysylltiad ag addysgu a dysgu o’r fath.
(2)
Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir—
(a)
os darperir addysg ar gyfer y plentyn, naill ai yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) neu fel arall—
(i)
mewn ysgol arall a gynhelir, neu
(ii)
mewn ysgol feithrin a gynhelir;
(b)
os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 mewn uned cyfeirio disgyblion;
(c)
os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion, ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.
(3)
Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir—
(a)
os darperir addysg ar gyfer y plentyn, naill ai yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 neu fel arall—
(i)
mewn ysgol feithrin arall a gynhelir, neu
(ii)
mewn ysgol a gynhelir;
(b)
os darperir addysg ar gyfer y plentyn mewn uned cyfeirio disgyblion;
(c)
os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion, ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.
(4)
Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn uned cyfeirio disgyblion os darperir addysg ar gyfer y plentyn, yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996—
(a)
mewn uned cyfeirio disgyblion arall, neu
(b)
ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion neu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.
(5)
Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn—
(a)
os nad yw’r plentyn yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, a
(b)
os yw’r plentyn o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.
(6)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd wneud darpariaeth ar gyfer gwneud a gweithredu, ac mewn cysylltiad â gwneud a gweithredu, trefniadau ar gyfer asesu’r materion a ganlyn—
(a)
y cynnydd a wneir gan blant y mae’r adran hon yn gymwys iddynt;
(b)
y camau nesaf yn eu cynnydd;
(c)
yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
(7)
Caiff y rheoliadau—
(a)
rhoi swyddogaethau i berson o fewn is-adran (8);
(b)
cymhwyso darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad â phlant y mae’r adran hon yn gymwys iddynt, gydag addasiadau neu hebddynt;
(c)
darparu i ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, a fyddai fel arall yn gymwys mewn cysylltiad â’r plant hynny, beidio â bod felly.
(8)
Y personau yw—
(a)
pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
(b)
corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
(c)
yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;
(d)
y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;
(e)
person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996;
(f)
darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
(g)
awdurdod lleol yng Nghymru.