RHAN 6LL+CATODOL

Cydweithredu a hwylusoLL+C

67Dyletswyddau awdurdodau lleol i hwyluso cyflawni swyddogaethauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hwyluso cyflawni swyddogaethau, gan bersonau o fewn is-adran (2), a roddir iddynt gan neu o dan Rannau 2 i 4.

(2)Y personau yw—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, a sicrheir gan yr awdurdod lleol;

(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol;

(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) ar gyfer darparu addysg i blentyn ac eithrio—

(a)mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol, neu

(b)mewn uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

(4)Rhaid i’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hwyluso cyflawni, gan bersonau o fewn is-adran (5), eu swyddogaethau perthnasol.

(5)Y personau yw—

(a)pan fo’r addysg yn cael ei darparu i’r plentyn mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan awdurdod lleol arall, bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol;

(b)pan fo’r addysg yn cael ei darparu i’r plentyn mewn uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan awdurdod lleol arall, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned, y pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned (os oes un) a’r awdurdod hwnnw;

(c)pan fo’r addysg yn cael ei darparu ar gyfer y plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, unrhyw berson sy’n ei darparu.

(6)“Swyddogaethau perthnasol” person o fewn is-adran (5) yw’r swyddogaethau a roddir i’r person hwnnw, gan neu o dan Rannau 2 i 4, mewn cysylltiad â’r addysg.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 67 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)