RHAN 6ATODOL
Cydweithredu a hwyluso
67Dyletswyddau awdurdodau lleol i hwyluso cyflawni swyddogaethau
(1)
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hwyluso cyflawni swyddogaethau, gan bersonau o fewn is-adran (2), a roddir iddynt gan neu o dan Rannau 2 i 4.
(2)
Y personau yw—
(a)
pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol;
(b)
corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol;
(c)
darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, a sicrheir gan yr awdurdod lleol;
(d)
yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol;
(e)
y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
(3)
Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) ar gyfer darparu addysg i blentyn ac eithrio—
(a)
mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol, neu
(b)
mewn uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
(4)
Rhaid i’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hwyluso cyflawni, gan bersonau o fewn is-adran (5), eu swyddogaethau perthnasol.
(5)
Y personau yw—
(a)
pan fo’r addysg yn cael ei darparu i’r plentyn mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan awdurdod lleol arall, bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol;
(b)
pan fo’r addysg yn cael ei darparu i’r plentyn mewn uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan awdurdod lleol arall, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned, y pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned (os oes un) a’r awdurdod hwnnw;
(c)
pan fo’r addysg yn cael ei darparu ar gyfer y plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, unrhyw berson sy’n ei darparu.
(6)
“Swyddogaethau perthnasol” person o fewn is-adran (5) yw’r swyddogaethau a roddir i’r person hwnnw, gan neu o dan Rannau 2 i 4, mewn cysylltiad â’r addysg.