RHAN 6ATODOL
Cydweithredu a hwyluso
66Dyletswyddau Gweinidogion Cymru i hwyluso cyflawni swyddogaethau
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar hwyluso cyflawni swyddogaethau, gan bersonau o fewn is-adran (2), a roddir iddynt gan neu o dan Rannau 2 i 4.
(2)
Y personau yw—
(a)
pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
(b)
corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
(c)
darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
(d)
yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;
(e)
y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;
(f)
person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);
(g)
awdurdod lleol yng Nghymru.