RHAN 6ATODOL

Cydweithredu a hwyluso

65Dyletswydd i gydweithredu

(1)

Rhaid i berson o fewn is-adran (2) geisio ymrwymo i drefniadau cydweithredu—

(a)

â pherson arall o fewn yr is-adran honno, neu

(b)

â chorff llywodraethu sefydliad yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach,

os yw’r person yn ystyried y byddai ymrwymo i drefniadau o’r fath yn hwyluso arfer swyddogaeth a roddir i’r person gan neu o dan y Ddeddf hon.

(2)

Y personau yw—

(a)

pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)

corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)

darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)

yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)

y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;

(f)

awdurdod lleol yng Nghymru.

(3)

Os yw person yn ceisio ymrwymo i drefniadau cydweithredu â pherson arall yn unol ag is-adran (1), rhaid i’r person arall ystyried y cais.

(4)

Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau cydweithredu” yw—

(a)

trefniadau a wneir wrth arfer y pwerau cydlafurio a ddisgrifir yn adran 5 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7), neu

(b)

trefniadau o fath tebyg a wneir gan neu gyda—

(i)

pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,

(ii)

darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(iii)

yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion, neu

(iv)

pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion.