65Dyletswydd i gydweithreduLL+C
(1)Rhaid i berson o fewn is-adran (2) geisio ymrwymo i drefniadau cydweithredu—
(a)â pherson arall o fewn yr is-adran honno, neu
(b)â chorff llywodraethu sefydliad yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach,
os yw’r person yn ystyried y byddai ymrwymo i drefniadau o’r fath yn hwyluso arfer swyddogaeth a roddir i’r person gan neu o dan y Ddeddf hon.
(2)Y personau yw—
(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;
(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;
(f)awdurdod lleol yng Nghymru.
(3)Os yw person yn ceisio ymrwymo i drefniadau cydweithredu â pherson arall yn unol ag is-adran (1), rhaid i’r person arall ystyried y cais.
(4)Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau cydweithredu” yw—
(a)trefniadau a wneir wrth arfer y pwerau cydlafurio a ddisgrifir yn adran 5 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7), neu
(b)trefniadau o fath tebyg a wneir gan neu gyda—
(i)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,
(ii)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,
(iii)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion, neu
(iv)pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)
