RHAN 6ATODOL

Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig

64Dyletswydd i hybu gwybodaeth am Gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant a hawliau pobl ag anableddau a dealltwriaeth o’r Confensiynau hynny

(1)

Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â chwricwlwm yr ysgol.

(2)

Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.

(3)

Rhaid i’r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned.

(4)

Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(5)

Yn yr adran hon—

ystyr “CCUHP” (“UNCRC”) yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989; ac mae Rhan 1 o CCUHP i’w thrin fel pe bai’n cael effaith—

(a)

fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond

(b)

yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y’i nodir am y tro yn Rhan 3 o’r Atodlen honno;

ystyr “CCUHPA” (“UNCRPD”) yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’i brotocol dewisol a fabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2006 gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol A/RES/61/106 ac a agorwyd i’w lofnodi ar 30 Mawrth 2007; ac mae i’w drin fel pe bai’n cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ei gadarnhau, ac eithrio pan fo’r datganiad neu’r neilltuad wedi ei dynnu’n ôl wedi hynny.