63Dyletswydd i roi sylw i iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifancLL+C
(1)Rhaid i berson o fewn is-adran (2), wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon, roi sylw i iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc y mae arfer y swyddogaeth yn debygol o effeithio arnynt.
(2)Y personau yw—
(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;
(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;
(f)person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);
(g)awdurdod lleol yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)
