RHAN 4LL+CASESU A CHYNNYDD

57Hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnyddLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo person perthnasol (neu bersonau perthnasol o ddisgrifiad penodedig) i gymryd camau penodedig gyda golwg ar hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd yng nghyd-destun cwricwlwm perthnasol.

(2)Rhaid i berson perthnasol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan yr adran hon gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(3)Yn yr adran hon—

(a)mae i “cwricwlwm perthnasol” a “person perthnasol” yr ystyr a roddir yn adran 56, a

(b)ystyr “penodedig” yw penodedig mewn cyfarwyddyd o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 57 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(c)

I3A. 57(1) mewn grym ar 11.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/12, ergl. 2(b)

I4A. 57(1) mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/12, ergl. 3(b)

I5A. 57(2)(3) mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/12, ergl. 3(b)