RHAN 4ASESU A CHYNNYDD

56Dyletswydd i wneud darpariaeth ynghylch trefniadau asesu

(1)

Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau asesu.

(2)

Trefniadau asesu yw trefniadau ar gyfer asesu, mewn perthynas âʼr cwricwlwm perthnasol—

(a)

y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion a phlant,

(b)

y camau nesaf yn eu cynnydd, ac

(c)

yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.

(3)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill)—

(a)

ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol wneud a gweithredu trefniadau asesu;

(b)

pennu pa bryd a sut y maeʼr trefniadau hynny iʼw gwneud aʼu gweithredu;

(c)

pennuʼr trefniadau asesu, neuʼr meini prawf y mae rhaid i’r trefniadau eu bodloni;

(d)

ei gwneud yn ofynnol gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau asesu;

(e)

gwneud darpariaeth ynghylch sut y maeʼr gwerthusiad hwnnw iʼw gynnal;

(f)

ei gwneud yn ofynnol cadw trefniadau asesu o dan adolygiad, aʼu diwygio;

(g)

ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu gwybodaeth, fel yʼi pennir yn y rheoliadau, ynghylch trefniadau asesu a wneir neu a weithredir gan y person hwnnw, ac ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-adran (2).

(4)

Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)

pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)

corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)

darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)

yr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)

pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion;

(f)

person syʼn darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “cwricwlwm perthnasol”—

(a)

mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ywʼr cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(b)

mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, ywʼr cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan y person y darperir yr addysg ganddo (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(c)

mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, ywʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned y cyfeirir ato yn adran 50 (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 51, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(d)

mewn perthynas ag addysg a ddarperir ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ywʼr cwricwlwm i’r plentyn y cyfeirir ato yn adran 53.

(6)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)

pennuʼr trefniadau asesu sydd iʼw gwneud aʼu gweithredu drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir o bryd iʼw gilydd gan unrhyw berson;

(b)

gwneud darpariaeth i drefniadau asesu gael eu gweithredu yn unol â dogfen a gyhoeddir o bryd iʼw gilydd gan unrhyw berson.