RHAN 3LL+CCWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL

Addysg arall a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996LL+C

55Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau bod y cwricwlwm i’r plentyn yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y plentyn,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y plentyn (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn.

(2)Rhaid iʼr awdurdod lleol hefyd sicrhau bod y trefniadau yn sicrhauʼr addysgu a dysgu y mae rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar ei gyfer o dan adran 53(3), (4) a (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 55 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I4A. 55 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I5A. 55 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)