Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

54Adolygu a diwygioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion—

(a)cadw’r trefniadau o dan adolygiad, a

(b)sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

(2)Wrth ystyried a yw’r trefniadau yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion hynny, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir mewn perthynas â’r plentyn o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r trefniadau os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 54 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 54 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I4A. 54 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I5A. 54 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)