RHAN 3CWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL
Addysg arall a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996
53Gofynion cwricwlwm
(1)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau cwricwlwm iʼr plentyn syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).
(2)
Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—
(a)
galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)
darparu ar gyfer cynnydd priodol iʼr plentyn,
(c)
bod yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn, a
(d)
bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i’r plentyn.
(3)
Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn, ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)
syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,
(b)
syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac
(c)
syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(4)
Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.
(5)
Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)
yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a
(b)
yn yr elfennau mandadol eraill.