RHAN 3LL+CCWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL

Unedau cyfeirio disgyblionLL+C

52Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol i bob disgybl,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.

(2)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(3)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod yr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)(b) yn addas ar gyfer cyfnod datblygu pob disgybl.

(4)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—

(a)ystyried pa addysgu a dysgu y byddaiʼn briodol ei ddarparu ar gyfer pob disgybl yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill aʼr elfennau mandadol eraill y maeʼr cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a

(b)sicrhau, iʼr graddau y maeʼn rhesymol bosibl, y darperir yr addysgu a dysgu ar gyfer y disgybl.

(5)Rhaid iʼr awdurdod lleol aʼr pwyllgor rheoli (os oes un) ar gyfer uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y gweithredir y cwricwlwm ar gyfer yr uned i ddisgyblion yn unol âʼr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 52 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I4A. 52 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I5A. 52 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)