RHAN 3CWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL
Unedau cyfeirio disgyblion
52Gweithredu cwricwlwm
(1)
Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd—
(a)
syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)
syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol i bob disgybl,
(c)
syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,
(d)
syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac
(e)
syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.
(2)
Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—
(a)
syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,
(b)
syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac
(c)
syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(3)
Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod yr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)(b) yn addas ar gyfer cyfnod datblygu pob disgybl.
(4)
Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—
(a)
ystyried pa addysgu a dysgu y byddaiʼn briodol ei ddarparu ar gyfer pob disgybl yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill aʼr elfennau mandadol eraill y maeʼr cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a
(b)
sicrhau, iʼr graddau y maeʼn rhesymol bosibl, y darperir yr addysgu a dysgu ar gyfer y disgybl.
(5)
Rhaid iʼr awdurdod lleol aʼr pwyllgor rheoli (os oes un) ar gyfer uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y gweithredir y cwricwlwm ar gyfer yr uned i ddisgyblion yn unol âʼr adran hon.