RHAN 3CWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL
Unedau cyfeirio disgyblion
51Adolygu a diwygio cwricwlwm
(1)
Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—
(a)
cadwʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned o dan adolygiad, a
(b)
sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.
(2)
Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 50, rhaid iddynt roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.
(3)
Rhaid iddynt ddiwygioʼr cwricwlwm os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.
(4)
Cânt ddiwygioʼr cwricwlwm hefyd ar unrhyw adeg y maent yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)
Os caiff y cwricwlwm ei ddiwygio, rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.