51Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C
(1)Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—
(a)cadwʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned o dan adolygiad, a
(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.
(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 50, rhaid iddynt roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.
(3)Rhaid iddynt ddiwygioʼr cwricwlwm os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.
(4)Cânt ddiwygioʼr cwricwlwm hefyd ar unrhyw adeg y maent yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)Os caiff y cwricwlwm ei ddiwygio, rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.
I3A. 51 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)
I4A. 51 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)
I5A. 51 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)
