RHAN 3CWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL
Unedau cyfeirio disgyblion
50Gofynion cwricwlwm
(1)
Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod cwricwlwm ar gyfer yr uned syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).
(2)
Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—
(a)
galluogi disgyblion i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)
darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddisgyblion,
(c)
bod yn addas i ddisgyblion o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol, a
(d)
bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i ddisgyblion.
(3)
Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)
syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,
(b)
syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac
(c)
syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(4)
Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion.
(5)
Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)
yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a
(b)
yn yr elfennau mandadol eraill.
(6)
Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.