50Gofynion cwricwlwmLL+C
(1)Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod cwricwlwm ar gyfer yr uned syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).
(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—
(a)galluogi disgyblion i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddisgyblion,
(c)bod yn addas i ddisgyblion o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol, a
(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i ddisgyblion.
(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,
(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac
(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion.
(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a
(b)yn yr elfennau mandadol eraill.
(6)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 50 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.
I3A. 50 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)