RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 4GWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU

48Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer eithriadau pellach

(1)

Caiff rheoliadau—

(a)

datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(b)

darparu bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(c)

datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36 neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(d)

darparu bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi disgresiwn i berson.