RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 4GWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU

45Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion unigol

(1)

Maeʼr adran hon yn gymwys—

(a)

pan fo pennaeth ysgol yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl o dan reoliadau a wneir o dan adran 42, neu

(b)

pan fo disgybl, neu riant disgybl, yn gofyn i bennaeth ysgol wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr disgybl, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.

(2)

Caiff pob un oʼr canlynol apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol—

(a)

y disgybl;

(b)

rhiant y disgybl.

(3)

Nid yw is-adran (2)(a) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan yr adran hon.

(4)

Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff y corff llywodraethu—

(a)

cyfarwyddoʼr pennaeth, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu

(b)

hysbysu’r pennaeth, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

(5)

Rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(a)

iʼr disgybl, a

(b)

i riant y disgybl.

(6)

Nid yw is-adran (5)(a) yn gymwys os ywʼr corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(7)

Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).

(8)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.