RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 4GWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU
44Darparu gwybodaeth am eithriadau dros dro
(1)
Rhaid i bennaeth syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—
(a)
y disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef,
(b)
rhiant y disgybl,
(c)
corff llywodraethuʼr ysgol, a
(d)
yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol.
(2)
Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—
(a)
rhiant y plentyn y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a
(b)
yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.
(3)
Yr wybodaeth yw—
(a)
y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud, ei amrywio neu ei ddirymu;
(b)
effaith y penderfyniad, yr amrywiad neuʼr dirymiad;
(c)
y rhesymau dros wneud, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad;
(d)
gwybodaeth am—
(i)
yr hawl i wneud apêl o dan adran 45 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl);
(ii)
yr hawl i wneud apêl o dan adran 46 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud ag unrhyw blentyn arall).
(4)
Pan fo penderfyniad wedi ei wneud neu ei amrywio, rhaid iʼr wybodaeth hefyd gynnwys—
(a)
disgrifiad oʼr ddarpariaeth a wneir ar gyfer addysg y disgybl neuʼr plentyn yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad;
(b)
disgrifiad oʼr ffordd y maeʼr pennaeth neuʼr darparwr yn bwriadu sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(5)
Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—
(a)
yr wybodaeth a roddid, neu
(b)
yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan adran 45.