42Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigolLL+C
(1)Caiff rheoliadau alluogi pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir i benderfynu, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—
(a)bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw datgymhwyso mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, neu
(b)bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw cymhwyso mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, gydaʼr addasiadau a bennir yn y penderfyniad.
(2)Caiff rheoliadau alluogi darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir i benderfynu, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—
(a)bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw datgymhwyso, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, mewn perthynas â phlentyn y darperir yr addysg ar ei gyfer, neu
(b)bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw cymhwyso mewn perthynas â phlentyn oʼr fath, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, gydaʼr addasiadau a bennir yn y penderfyniad.
(3)Os gwneir rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid iddynt ddarparu na chaiff person wneud penderfyniad o dan y rheoliadau oni bai ei fod wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn o ganlyniad iʼr penderfyniad—
(a)yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,
(c)yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn,
(d)yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y disgybl neuʼr plentyn (os oes rhai), ac
(e)yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.
(4)Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 42 mewn grym ar 14.6.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 3(a)
I3A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(b)
