Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

41Disgyblion a phlant ag anghenion dysgu ychwanegolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan awdurdod lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol aʼr Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) gynnwys darpariaeth—

(a)syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;

(b)syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;

(c)syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;

(d)syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.

(2)Caiff y ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir mewn cynllun AIG o dan adran 37 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) gynnwys darpariaeth—

(a)syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;

(b)syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;

(c)syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;

(d)syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.

(3)Ond ni chaiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2) oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr plentyn o ganlyniad iʼr datgymhwyso neuʼr addasu—

(a)yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y disgybl neuʼr plentyn,

(c)yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn, a

(d)yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.

(4)Caiff rheoliadau bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2).

(5)Yn yr adran hon, maeʼr cyfeiriad at yr awdurdod lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol syʼn llunio neuʼn cynnal y cynllun datblygu unigol neu syʼn sicrhau bod y cynllun AIG yn cael ei lunio, ei ddiwygio neu ei ddisodli.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I3A. 41 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I4A. 41 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

I5A. 41 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(a)