RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 4GWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU
41Disgyblion a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol
(1)
Caiff y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan awdurdod lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol aʼr Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) gynnwys darpariaeth—
(a)
syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;
(b)
syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;
(c)
syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;
(d)
syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.
(2)
Caiff y ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir mewn cynllun AIG o dan adran 37 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) gynnwys darpariaeth—
(a)
syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;
(b)
syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;
(c)
syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;
(d)
syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.
(3)
Ond ni chaiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2) oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr plentyn o ganlyniad iʼr datgymhwyso neuʼr addasu—
(a)
yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)
yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y disgybl neuʼr plentyn,
(c)
yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn, a
(d)
yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.
(4)
Caiff rheoliadau bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2).
(5)
Yn yr adran hon, maeʼr cyfeiriad at yr awdurdod lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol syʼn llunio neuʼn cynnal y cynllun datblygu unigol neu syʼn sicrhau bod y cynllun AIG yn cael ei lunio, ei ddiwygio neu ei ddisodli.