40Gwaith datblygu ac arbrofion: atodolLL+C
(1)Maeʼr adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 38.
(2)Rhaid rhoiʼr cyfarwyddyd yn ysgrifenedig.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddiʼr cyfarwyddyd.
(4)Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag ysgol—
(a)rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a
(b)nid yw adran 12 yn gymwys mewn perthynas âʼr ysgol ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.
(5)Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—
(a)rhaid i ddarparwr yr addysg gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a
(b)nid yw adran 16 yn gymwys mewn perthynas âʼr addysg ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.
I3A. 40 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)
I4A. 40 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)
I5A. 40 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(a)
