RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 4GWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU

40Gwaith datblygu ac arbrofion: atodol

(1)

Maeʼr adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 38.

(2)

Rhaid rhoiʼr cyfarwyddyd yn ysgrifenedig.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddiʼr cyfarwyddyd.

(4)

Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag ysgol—

(a)

rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a

(b)

nid yw adran 12 yn gymwys mewn perthynas âʼr ysgol ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.

(5)

Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)

rhaid i ddarparwr yr addysg gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a

(b)

nid yw adran 16 yn gymwys mewn perthynas âʼr addysg ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.