RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 4GWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU

39Gwaith datblygu ac arbrofion: amodau

(1)

Dim ond os ywʼr amodau yn yr adran hon wedi eu bodloni y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 38.

(2)

Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr disgyblion neuʼr plant o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd—

(a)

yn galluogi pob disgybl neu blentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)

yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,

(c)

yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl neu blentyn,

(d)

yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl neu blentyn (os oes rhai), ac

(e)

yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl neu blentyn.

(3)

Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—

(a)

ar gais a wneir gan y corff llywodraethu gyda chytundeb yr awdurdod lleol,

(b)

ar gais a wneir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb y corff llywodraethu, neu

(c)

ar gynnig a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb y corff llywodraethu aʼr awdurdod lleol.

(4)

Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—

(a)

ar gais a wneir gan y corff llywodraethu, neu

(b)

gyda chytundeb y corff llywodraethu.

(5)

Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—

(a)

ar gais a wneir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb darparwr yr addysg, neu

(b)

ar gynnig a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb yr awdurdod lleol a darparwr yr addysg.

(6)

Yn yr adran hon—

(a)

mae cyfeiriadau at yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol;

(b)

mae cyfeiriadau at yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.