RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM
Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir
36Gofynion syʼn ymwneud â meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaidd
(1)
Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob plentyn—
(a)
syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a
(b)
syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(2)
Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir i blentyn o dan is-adran (1), mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.