36Gofynion syʼn ymwneud â meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaiddLL+C
(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob plentyn—
(a)syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a
(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(2)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir i blentyn o dan is-adran (1), mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.
I3A. 36 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)
I4A. 36 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)
I5A. 36 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(a)
