RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM
Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir
35Gofynion gweithredu cyffredinol
Rhaid gweithredu’r cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—
(a)
syʼn galluogi pob plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)
syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob plentyn,
(c)
syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob plentyn,
(d)
syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob plentyn (os oes rhai), ac
(e)
syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob plentyn.