Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

34Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedigLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i blant yn unol ag adrannau 35 a 36.

(2)Rhaid i awdurdod lleol syʼn sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu yn unol ag adrannau 35 a 36 i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 34 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I3A. 34 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I4A. 34 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

I5A. 34 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(a)