RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir
33Adolygiadau ac apelau syʼn ymwneud â dewis disgybl
(1)
Caiff disgybl neu riant y rhoddir gwybodaeth iddo am benderfyniad a wneir gan bennaeth o dan adran 31—
(a)
ei gwneud yn ofynnol iʼr pennaeth adolyguʼr penderfyniad, a
(b)
os nad yw wedi ei fodloni ar benderfyniad y pennaeth ar yr adolygiad, apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
(2)
Yn sgil adolygiad—
(a)
caiff y pennaeth gadarnhau, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad, a
(b)
rhaid iʼr pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr penderfyniad hwnnw—
(i)
iʼr disgybl,
(ii)
i riant y disgybl a
(iii)
iʼr corff llywodraethu.
(3)
Ond nid yw is-adran (2)(b)(i) yn gymwys os yw’r pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—
(a)
yr wybodaeth a roddid, neu
(b)
yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan is-adran (1)(b).
(4)
Yn sgil apêl—
(a)
caiff y corff llywodraethu gadarnhau penderfyniad y pennaeth ar yr adolygiad neu gyfarwyddoʼr pennaeth i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol, a
(b)
rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—
(i)
iʼr disgybl,
(ii)
i riant y disgybl, a
(iii)
iʼr pennaeth.
(5)
Ond nid yw is-adran (4)(b)(i) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
(6)
Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4)(a).
(7)
Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol o fewn is-adran (8) gyhoeddi gwybodaeth syʼn nodi gweithdrefn ar gyfer adolygiadau ac apelau o dan yr adran hon.
(8)
Mae ysgol o fewn yr is-adran hon os yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn gymwys i ddisgyblion sydd wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi.