RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir
32Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl: atodol
(1)
Rhaid i bennaeth syʼn gwneud penderfyniad o dan adran 31 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2)—
(a)
i’r disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a
(b)
i riant y disgybl.
(2)
Yr wybodaeth yw—
(a)
y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud,
(b)
effaith y penderfyniad,
(c)
rhesymauʼr pennaeth dros wneud y penderfyniad,
(d)
gwybodaeth am yr addysgu a dysgu a sicrheir iʼr disgybl yn lleʼr addysgu a dysgu y maeʼr penderfyniad wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef, ac
(e)
gwybodaeth am yr hawl i ofyn am adolygiad, neu wneud apêl, o dan adran 33.
(3)
Rhaid rhoiʼr wybodaeth yn ysgrifenedig.
(4)
Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall—
(a)
yr wybodaeth a roddid, neu
(b)
yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawliau a roddir gan adran 33.
(5)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 31.