RHAN 2LL+CCWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 3LL+CGWEITHREDU CWRICWLWM

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelirLL+C

31Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgyblLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys i’r addysgu a dysgu a ddewisir gan ddisgybl yn rhinwedd adran 24.

(2)Os yw pennaeth ysgol a gynhelir wedi ei fodloni bod sail berthnasol yn gymwys, caiff y pennaeth benderfynu nad yw’r ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu yn gymwys.

(3)Yn achos penderfyniad a wneir cyn iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—

(a)nad ywʼr addysgu a dysgu yn addas iʼr disgybl, oherwydd lefel cyrhaeddiad addysgol y disgybl;

(b)nad ywʼn rhesymol ymarferol sicrhau’r addysgu a dysgu iʼr disgybl, oherwydd dewisiadau eraill a wneir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24;

(c)y byddaiʼr amser syʼn debygol o gael ei dreulio yn teithio iʼr man lle y maeʼr addysgu yn debygol o gael ei ddarparu yn niweidiol i addysg y disgybl;

(d)yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl;

(e)y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl.

(4)Yn achos penderfyniad a wneir ar ôl iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—

(a)yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl;

(b)y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl.

(5)Yn is-adrannau (3) a (4), y “blwyddyn ysgol berthnasol” ywʼr flwyddyn ysgol y bydd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd 15 oed ynddi.

(6)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adrannau (3) a (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 31 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(a)