RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir
31Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl
(1)
Maeʼr adran hon yn gymwys i’r addysgu a dysgu a ddewisir gan ddisgybl yn rhinwedd adran 24.
(2)
Os yw pennaeth ysgol a gynhelir wedi ei fodloni bod sail berthnasol yn gymwys, caiff y pennaeth benderfynu nad yw’r ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu yn gymwys.
(3)
Yn achos penderfyniad a wneir cyn iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—
(a)
nad ywʼr addysgu a dysgu yn addas iʼr disgybl, oherwydd lefel cyrhaeddiad addysgol y disgybl;
(b)
nad ywʼn rhesymol ymarferol sicrhau’r addysgu a dysgu iʼr disgybl, oherwydd dewisiadau eraill a wneir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24;
(c)
y byddaiʼr amser syʼn debygol o gael ei dreulio yn teithio iʼr man lle y maeʼr addysgu yn debygol o gael ei ddarparu yn niweidiol i addysg y disgybl;
(d)
yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl;
(e)
y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl.
(4)
Yn achos penderfyniad a wneir ar ôl iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—
(a)
yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl;
(b)
y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl.
(5)
Yn is-adrannau (3) a (4), y “blwyddyn ysgol berthnasol” ywʼr flwyddyn ysgol y bydd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd 15 oed ynddi.
(6)
Caiff rheoliadau ddiwygio is-adrannau (3) a (4).