RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir

30Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 14 i 16 oed

(1)

Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi.

(2)

Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)

syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl syʼn cwmpasuʼr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad, a

(b)

syʼn sicrhau addysgu a dysgu arall i bob disgybl ym mhob maes dysgu a phrofiad.

(3)

Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2) ddatblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)

Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2) gynnwys—

(a)

addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir yn y cwricwlwm, iʼr graddau y maeʼn gymwys iʼr disgybl, yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 25, a

(b)

yr addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24.

(5)

Am eithriad iʼr ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl, gweler adran 31.

(6)

Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—

(a)

mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a

(b)

mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1.