RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir
27Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedig
(1)
Rhaid i bennaeth ysgol sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i ddisgyblion yr ysgol yn unol ag adrannau 28, 29 a 30.
(2)
Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i ddisgyblion yr ysgol yn unol ag adrannau 28, 29 a 30.