RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 3GWEITHREDU CWRICWLWM
Cyffredinol
26Cyflwyniad a dehongli
(1)
Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithredu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—
(a)
disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)
disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;
(c)
plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
(2)
Mae Pennod 4 yn nodi eithriadau iʼr dyletswyddau gweithredu cwricwlwm yn y Bennod hon.
(3)
Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4 at ysgol yn gyfeiriadau—
(a)
at ysgol a gynhelir, neu
(b)
at ysgol feithrin a gynhelir.
(4)
Yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4—
(a)
mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)
mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;
(c)
mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);
(d)
mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).