Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

24Meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaiddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu pob un oʼr meysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad, a

(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(2)Rhaid iʼr ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion, neu blant.

(3)Rhaid i’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gyd-fynd â Rhan 1 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu wedi ei gwneud—

(a)ar gyfer disgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol;

(b)ar gyfer plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(5)Os ywʼr cwricwlwm yn gymwys i ddisgyblion sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi, rhaid iddo gynnig iʼr disgyblion hynny ddewis o addysgu a dysgu o fewn pob maes dysgu a phrofiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 24(1)(2)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I3A. 24(1)(2)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I4A. 24(1)(2)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)