Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

2Y pedwar dibenLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pedwar diben cwricwlwm yw—

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru aʼr byd;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y pedwar diben yn gyfeiriadau at y dibenion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 2 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2